Iddewiaeth
Mae Iddewon yn credu mewn un Duw a greodd y byd. Dechreuodd Iddewiaeth 3,500 o flynyddoedd yn ol pan wnaeth Duw gytundeb hefo Abraham. Mae Iddewon yn creu mai nhw yw pobl ddetholedig Duw ac felly i gyfnewid am y pethau da a wna Duw iddynt mae Iddewon yn cytuno i gadw ei gyfraith a byw bywyd sanctaidd.
Gelwir y Beibl Iddewig yn Tanakh, a gelwir y rhan gyntaf, mwyaf pwysig yw'r Torah. Rhoddodd Duw y Torah i Moses ar fynydd Sinai, ar ol i'r Iddewon ddianc o'r Aifft. Mae'n cynnwys :
- Bresheit (Genesis)
- Shemot (Exodus)
- Vayicra (Leviticus)
- Bamidbar (Numbers)
- Devarim (Deuteronomy)
Gelwir y rhain yn bum llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl Cristnogol.
Gelwir addoldy Iddewig yn synagog a'u diwrnod Sanctaidd yw'r Saboth, dechrau cyn machlud haul nos Wener a rhedeg am awr ar ol machlud hawl Nos Sadwrn – a'r adeg yma ni ddylid gwneud unrhyw waith yn ol y Deg Gorchymyn.
Mae'r addoliad Hebraeg agosaf i Sir Ddinbych yn Llandudno.
